Eitemau Trydanol
Ailgylchu gartref
Mae rhai cynghorau’n derbyn eitemau trydanol bach fel rhan o’u cynllun ailgylchu o’r cartref. Os yw eich cyngor chi’n gwneud hyn, efallai y bydd cyfarwyddiadau arbennig am sut i’w rhoi allan i’w casglu. Y peth gorau i’w wneud yw holi eich cyngor yn gyntaf.
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Eitemau Trydanol mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Pa eitemau trydanol y gellir eu hailgylchu?
Mae eitemau trydanol bach y gellir eu hailgylchu’n cynnwys:
Unrhyw eitem sydd â phlwg, sy’n defnyddio batri, y mae angen ei wefru neu unrhyw sydd â llun o fin olwynion gyda chroes drwyddo arni;
Tŵls garddio fel peiriannau torri gwellt a pheiriannau llarpio;
Nwyddau gofal personol fel sychwyr gwallt, sythwyr gwallt, brwsys dannedd trydan a raseli trydan;
Nwyddau gofal personol fel sychwyr gwallt, sythwyr gwallt, brwsys dannedd trydan a raseli trydan;
Technoleg fel radios, chwaraewyr CD/DVD, teganau a gemau electronig, ffonau, chwaraewyr MP3, setiau teledu, argraffwyr a chamerâu;
Eitemau eraill fel lampau, tortshis, goleuadau coed Nadolig, sugnwyr llwch, larymau mwg, peiriannau rhoi, offer TG a chyfathrebu, gliniaduron, cyfrifiaduron, tŵls trydan, offer chwaraeon, dyfeisiau meddygol a dyfeisiau rheoli.
Mae’r eitemau trydanol mawr y dylid eu casglu ar wahân fel rhan o gasgliad gwastraff swmpus a drefnir gyda’ch cyngor lleol, os yw’r gwasanaeth hwn ar gael i chi, yn cynnwys:
Setiau teledu sgrin fflat a monitorau;
Lampau fflwroleuol;
Oergelloedd, Rhewgelloedd, peiriannau golchi a nwyddau gwyn eraill;
Dyfeisiau teledu CRT sy’n defnyddio tiwbiau pelydr catod.
Mae’n dda gwybod
Yr enw ar unrhyw eitem sydd â phlwg, sy’n defnyddio batris, sydd angen ei wefru, neu sydd â llun bin olwynion wedi’i groesi allan arno, yw Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff, neu WEEE (Waste Electrical and Electronic Equipment).
Ni ddylid anfon yr eitemau hyn i dirlenwi a dylid eu hailgylchu mewn Canolfannau Ailgylchu, banciau danfon eitemau trydanol neu fanwerthwyr eitemau trydanol – ewch i recycleyourelectricals.org.uk am fwy o wybodaeth.