Skip to main content
English
English

Gwydr

Ailgylchu gartref

Mae’n bosibl ailgylchu poteli a jariau gwydr gartref ond gwiriwch ein rhestr isod am eitemau eraill na ellir eu hailgylchu.

Ailgylchu oddi cartref

Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Gwydr mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.

Gweld mannau ailgylchu cyfagos

Pa eitemau gwydr y gellir eu hailgylchu?

  • Poteli o unrhyw liw – gwin, cwrw, gwirodydd;

  • Jariau – sawsiau, jam, bwyd babanod;

  • Poteli nwyddau nad ydynt yn fwyd – persawr, persawr eillio, eli wyneb.

Pa eitemau gwydr na ellir eu hailgylchu?

  • Eitemau seramig – llestri, llestri pridd;

  • Gwydrau yfed;

  • Llestri coginio gwydr – Pyrex, platiau o’r microdon;

  • Bylbiau a thiwbiau golau;

  • Fasau;

  • Gwydr wedi torri;

  • Tsieina;

  • Jariau canhwyllau gwydr;

  • Potiau pwdinau gwydr;

  • Drychau;

  • Haenau gwydr fel cwareli ffenestri.

Ewch i'n tydalen 'Egluro halogiad' i darganfod sut i gael gwared ar boteli a jariau gwydr yn gywir

Sut i ailgylchu gwydr

  • Gwagiwch a rhowch rinsiad sydyn iddynt – gall hylifau gweddilliol halogi deunyddiau eraill i’w hailgylchu, a allai olygu na chânt eu hailgylchu;

  • Gwiriwch gyda’ch Cyngor lleol a ddylech dynnu capiau a chaeadau metel a phlastig a’u rhoi yn eich cynhwysydd ar gyfer ailgylchu metelau, plastigau a chartonau, neu a ddylech eu hailosod ar eich poteli a jariau gwydr;

  • Dylid tynnu cyrc o boteli cyn eu hailgylchu a gellir eu compostio gartref neu eu rhoi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu;

  • Mewn banciau poteli, mae gwydr glas yn mynd i mewn gyda gwydr gwyrdd;

  • Peidiwch â rhoi poteli llaeth gwydr mewn banc poteli nac yn eich ailgylchu gwydr. Os caiff eich llaeth ei ddanfon mewn poteli gwydr, dylech eu dychwelyd i’r sawl sy’n danfon eich llaeth bob tro.

Ailgylchu eitem arall

Feindiwch eich ganolfan ailgylchu agosaf

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon