Cyllyll a Ffyrc
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Cyllyll a Ffyrc mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Sut i ailgylchu cyllyll a ffyrc
Gellir rhoi cyllyll a ffyrc sydd mewn cyflwr da i elusennau i’w hailddefnyddio;
Gellir rhoi cyllyll a ffyrc pren tafladwy mewn casgliad gwastraff o’r ardd i’w gompostio;
Gellir ailgylchu cyllyll a ffyrc nad ydynt yn ddefnyddiol mwyach gyda metel sgrap mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.
Cyllyll a ffyrc plastig tafladwy
Fel gyda llestri tafladwy, y peth gorau i’w wneud yw osgoi defnyddio cyllyll a ffyrc plastig tafladwy os yw’n bosibl. Mae Cyfarwyddeb Plastigion gan yr UE yn golygu y bydd cyllyll a ffyrc plastig yn cael eu diddymu, yn cynnwys yn y DU yn ei dro.