Rhag ofn nad oeddech chi’n gwybod, mae Cymru’n gwneud yn eithriadol o dda yn ailgylchu, ac wedi cyrraedd yr ail safle yn y byd erbyn hyn. Mae’n gyflawniad anhygoel, ond gadewch i ni fod yn realistig – does neb yn hoffi bod yn ail. Dyna pam mae angen eich cymorth chi arnom ni i roi Cymru ar y brig. Hoffech chi ymuno? Roeddem ni’n meddwl y byddech chi. Dyma sut gallwch chi wneud iddo ddigwydd… ac mae’r cyfan yn dechrau â bwyd.
Gwastraff bwyd: Yr allwedd i gyrraedd y brig
Dyma’r ffeithiau: mae gwastraff bwyd yn cyfrif am chwarter y bin sbwriel cyffredin, a gallai 80% ohono fod wedi cael ei fwyta, sy’n swm enfawr. Gall hyd yn oed y darnau o fwyd dydych chi ddim yn gallu eu bwyta gael eu defnyddio mewn ffyrdd ymarferol. Rydych chi’n helpu creu ynni adnewyddadwy dim ond trwy eu rhoi yn y cadi bwyd yn hytrach na’r bin. Credwch neu beidio, gallai ailgylchu pum bag te yn unig greu digon o drydan i wefru ffôn clyfar. A gallai crwyn pedwar banana wedi’u hailgylchu wefru ffôn clyfar. Mae hynny’n eitha’ epig, yn tydi?
Os yw Cymru am fod y gorau yn y byd, chi yw’r rhai a fydd yn gwneud i hynny ddigwydd. Mae pobl ifanc fel chi eisoes yn ymdrechu’n dda, ac mae gwastraff bwyd ymhlith pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed wedi codi o 59% yn 2023 i 74% eleni. Ond mae hynny islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 80%, o hyd. Ac er bod 62% o oedolion Cymru yn cael eu hystyried yn “ailgylchwyr hynod effeithlon” sy’n gwneud yn siŵr nad oes unrhyw fwyd yn cael ei roi yn y bin, dim ond 27% o bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed sy’n cyrraedd y lefel honno.
Ydych chi’n barod i godi safonau? Dyma’r genhadaeth:
Bwytewch yr holl fwyd rydych chi’n ei brynu – i gyd!
Ailgylchwch y darnau anfwytadwy, fel esgyrn a phlisg wyau, yn eich cadi gwastraff bwyd
Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw beth sy’n gysylltiedig â bwyd yn mynd yn y bin
Pam mae’n werth gwneud hyn
Rydych chi nid yn unig yn helpu’r blaned, rydych chi’n arbed arian, hefyd. Gallai aelwyd a rennir gan bedwar o bobl arbed £84 y mis dim ond trwy leihau gwastraff bwyd, a phwy fyddai ddim yn gallu defnyddio £84 yn ychwanegol ar gyfer rhywbeth mwy cyffrous na bwyd sydd wedi’i roi yn y bin?
Trwy ailgylchu’r hyn na allwch chi ei fwyta – fel coesynnau ffrwythau / llysiau, plisg wyau, esgyrn a chrafion – rydych chi hefyd yn creu ynni gwyrddach a glanach. Does dim cadi bwyd gennych chi? Archebwch un heddiw.
Gallai dim ond un cadi yn llawn gwastraff bwyd greu digon o ynni i bweru cartref nodweddiadol am bron i awr. Mae’n fuddiol i bawb!
Prydau bwyd ysbrydoledig: Gwnewch y gorau o’r bwyd sydd gennych chi
Gallwch weddnewid y llysiau yn eich oergell ar hap gyda’r fwydlen tri chwrs blasus hon a luniwyd gan gogydd Dirty Vegan, Matt Pritchard, ynghyd â’r fyfyrwraig o Brifysgol Met Caerdydd, Holly Davies, ar gyfer ein clwb swper Bydd Wych. Ailgylcha. Mae’n fforddiadwy ac yn gwneud y gorau o’r hyn sydd eisoes yn eich oergell.
Bwydlen pryd tri chwrs hawdd Matt a Holly
I ddechrau
Cawl llysiau rhost
Rhostiwch ba lysiau bynnag sydd gennych chi, eu cymysgu â stoc wedi’i ferwi, a’i gymysgu
Cofiwch ailgylchu: Coesynnau llysiau, crafion anfwytadwy
Prif gwrs
Syrpréis sbageti
Saws tomato gydag unrhyw lysiau (neu gig) dros ben a phinsiad o gaws Parma neu unrhyw gaws sydd gennych chi.
Cofiwch ailgylchu: Coesynnau llysiau, esgyrn (os ydych chi’n ychwanegu cig), crystyn caws Parma
Pwdin
Syndi iogwrt
Iogwrt gydag unrhyw ffrwythau ar ei ben, gydag ysgeintiadau o fisgedi, cnau, granola a phethau da eraill sydd gennych chi
Cofiwch ailgylchu: Croen banana a chrafion ffrwythau anfwytadwy eraill
Mae’r prydau bwyd cyflym a chreadigol hyn yn eich helpu i wneud y gorau o’r hyn sydd yn eich cegin, a gall unrhyw ddarnau anfwytadwy fynd yn syth i mewn i’ch cadi bwyd, yn barod i gael eu troi yn ynni adnewyddadwy.
Mae codi Cymru i Rif 1 yn syml: achubwch eich bwyd rhag y bin trwy fwyta’r hyn y gallwch i arbed arian ac ailgylchu’r hyn na allwch ei fwyta i greu ynni! Gwnewch addewid i ennill gwobr Gymreig flasus.
I gloi, dyma eiriau doeth gan y fyfyrwraig o Brifysgol Met Caerdydd, Holly Davies.
O ystyried bod pobl ifanc heddiw yn aml yn ymddangos fel pe baen nhw ar flaen y gad o ran ymwybyddiaeth a gweithredu ar faterion amgylcheddol, mae’n syndod ein bod ar ei hôl hi ar rywbeth sydd mor hawdd i’w wneud. Mae gan bawb gyfrifoldeb i greu byd cynaliadwy, felly gobeithio y bydd pobl yn sylweddoli pwysigrwydd defnyddio’r holl fwyd maen nhw’n ei brynu a defnyddio’u gwasanaeth ailgylchu bwyd.
Ewch i’n tudalen Bydd Wych. Ailgylcha i ddarganfod sut gallwch chi arbed arian a helpu creu ynni adnewyddadwy trwy wneud y gorau o’ch bwyd.