Wyddost ti fod y cartref cyfartalog o bedwar yn gwastraffu gwerth £84 o fwyd y mis?
Dyna arian (a phrydau blasus!) yn mynd yn syth i’r bin. Ond paid â phoeni, rydyn ni yma i ti. Bydd ein prydau gwych yn dangos i ti sut i drawsnewid seigiau syml gan ddefnyddio cynhwysion sy'n aml yn cael eu gadael ar ôl. Maen nhw’n hyblyg, yn faethlon ac yn gyflym i'w gwneud, yn berffaith ar gyfer diwrnodau prysur.
A chofia ailgylchu'r darnau na alli di eu bwyta – fel plisgyn wyau, esgyrn a choesynnau – i helpu Cymru i ddod yn wlad ailgylchu orau’r byd. Rydyn ni’n 2il ar hyn o bryd – mor agos!
Galli ychwanegu hanner moronen wedi'i gratio, pennau cennin wedi'u sleisio neu winwns, ychydig o fadarch, neu unrhyw gynhwysion eraill y mae angen eu defnyddio gan gynnwys cig wedi'i goginio. Ffrio mewn llwy fwrdd o olew nes maen nhw’n feddal.
Ychwanegu dy hoff saws pasta. Pesto? Tomato? Ti piau’r dewis!
Cymysga’r cwbl drwy basta wedi'i goginio nes ei fod yn chwilboeth – blasus a chyflym!
Cofia ailgylchu gwreiddyn y genhinen, topiau moron, coesynnau llysiau anfwytadwy, esgyrn cig.
Dewis dy hoff bast neu saws cyri (mae paced o’r siop yn iawn!) a bod yn greadigol gyda’r llenwad gan ddibynnu pa gynhwysion sydd angen ei ddefnyddio.
Gallet ddewis cyri gwyrdd gyda brocoli, sbigoglys a blodfresych; neu gyri cynhesol gyda phwmpen, moron, a thatws melys; cadw pethau’n syml gydag wyau wedi’u berwi; neu ddefnyddio darnau o gig dros ben o’r cinio Sul.
Rydym yn sicr fod yna datws yn dy oergell sydd angen eu defnyddio, felly beth am weini 'hanner a hanner' gyda sglodion yn eu crwyn a reis?
Cofia ailgylchu topiau llysiau, esgyrn cig a phlisg wyau.
Defnyddia padell ffrio nad yw’n glynu a dechrau gan goginio unrhyw lysiau tan maen nhw’n feddal.
Mae ychydig o winwns wedi’u gratio, pupurau a courgette yn gyfuniad blasus a lliwgar; ambell daten wedi’i berwi gyda’i chroen dal arni am fwy o sylwedd – ond galli ddefnyddio unrhyw beth. Mae cig wedi’i goginio’n wych hefyd!
Ychwanega wy wedi’i chwisgo i’r badell a’i goginio ar wres isel nes bydd bron wedi caledu. Rho ychydig o gaws ar ei ben a’i roi dan y gril am ychydig funudau i frownio. Blasus!
Cofia ailgylchu plisgyn wyau, crwyn winwns, creiddiau pupurau a choesynnau llysiau.
Bydd yn fentrus, defnyddia unrhyw fara sy’n digwydd bod yn y cwpwrdd – pita, bara tortila, neu rôl. Mae ychwanegu tafell o gig wedi’i goginio, hanner cenhinen, y tomato olaf… hyd yn oed lwyaid o’r cyri neu tsili sydd dros ben ers neithiwr, at dy hoff lenwad caws yn ei wneud yn epig!
Crasu’r llenwad rhwng darnau o fara menyn, mewn padell gynnes neu yn y ffwrn ffrio.
Galli ei weini gydag eitemau salad o’r oergell.
Cofia ailgylchu coesynnau’r tomatos, gwreiddyn y genhinen a choesynnau salad a llysiau eraill anfwytadwy.
Bydd yn greadigol gyda'r tameidiau olaf o ffrwythau – banana, afal (does dim angen cael gwared ar y croen!) ac ychydig o aeron wedi'i sleisio. Ychwanega ddarnau o deisen neu fisgedi wedi'u malu, os oes angen eu defnyddio.
Gosod y cwbl fesul haen mewn dysgl gydag iogwrt plaen neu un blas ffrwythau.
Ychwanega dalp o jam neu ddiferyn o fêl os wyt ti eisiau mwy o felyster – mae'r posibiliadau’n ddi-ben-draw.
Cofia ailgylchu'r croen banana, creiddiau afal, crwyn ffrwythau anfwytadwy.
Allai crempogau perffaith ddim bod yn haws. Yn syml, cymera gwpan bach a mesur llond cwpan cyfartal yr un o wyau, llaeth a blawd. Chwisgo’r cwbl gyda'i gilydd i greu cytew llyfn.
Mae hwn yn sylfaen hawdd ar gyfer defnyddio taeniadau, cynhwysion melys neu sawrus – caws meddal, dail gwyrdd a thafell o ham, neu dafelli tenau o unrhyw ffrwythau wedi'u haenu â thaeniad siocled neu iogwrt.
Ffria lond lletwad o’r cytew crempogau mewn padell, eu troi, eu llenwi a’u mwynhau!
Cofia ailgylchu'r croen banana, creiddiau afal, crwyn ffrwythau anfwytadwy.
Os na alli di ei fwyta fe, ailgylcha fe a chreu ynni adnewyddadwy
Boed yn fagiau te, esgyrn neu fwyd sydd wedi dyddio – ni waeth pa mor yucky – dylai’r holl wastraff bwyd fynd yn y cadi i greu ynni adnewyddadwy. Edrychwch ar fideo Matt Pritchard i weld y broses anhygoel hon ar waith!
Ysbrydoliaeth i gael mwy o'r bwyd rydych chi'n ei brynu

Mae Cymru’n 2il yn y byd am ailgylchu
Achub dy fwyd rhag y bin sbwriel yw'r cam gorau y galli ei gymryd i helpu i roi hwb i Gymru i rif 1 – trwy ddefnyddio'r holl fwyd rwyt ti’n ei brynu, ac ailgylchu'r hyn na ellir ei fwyta.
How does food waste create energy?
Mae ailgylchu eich gwastraff bwyd yn well i’r amgylchedd, dim ots pa mor fach yw’r symiau sydd gennych i’w rhoi yn eich cadi. Os nad ydych yn ailgylchu eich gwastraff bwyd, caiff ei botensial ei golli am byth. Er mwyn osgoi hyn, mae holl gynghorau Cymru’n casglu gwastraff bwyd bob wythnos. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ailgylchu ein gwastraff bwyd gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, felly mae’n bwysig ailgylchu eich gwastraff bwyd bob wythnos.