Deunydd Pacio Plastig Du
Ailgylchu gartref
Nid yw pob cyngor lleol yn derbyn deunydd pacio plastig du yn eu casgliadau ailgylchu o’r cartref – mae’n well ichi eu holi nhw’n uniongyrchol.
Mae’n dda gwybod
Pan fo deunydd pacio plastig yn mynd i’w ailgylchu, caiff ei ddidoli yn wahanol fathau o blastigion, a chaiff y rhain wedyn eu rhoi mewn sypiau yn barod i’w hailbrosesu. Defnyddir technoleg laser arbennig i wneud y gwaith didoli hwn. Roedd plastig du’n arfer bod yn anodd i’r laser ei weld, ac felly nid oedd yn dueddol o gael ei ddidoli ar gyfer ailgylchu.
Fodd bynnag, mae math newydd o blastig du y gall y laserau hyn eu canfod, ac mae’n bosibl ailgylchu’r rhan fwyaf o ddeunydd pacio plastig du erbyn hyn.