Anadlyddion
Ailgylchu gartref
Na, ni ellir ailgylchu anadlyddion gartref yn eich ardal chi ar hyn o bryd.
Sut i ailgylchu anadlyddion
Dylai pob anadlydd, boed yr anadlydd yn wag neu’n llawn gael ei ddychwelyd i fferyllfa i gael ei waredu’n ddiogel;
Ni ddylid rhoi anadlyddion yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu;
Mae cael gwared arnynt drwy dirlenwi’n niweidiol i’r amgylchedd yn nhermau gwastraffu deunyddiau ac o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr gan fod y nwy gweddilliol o’r anadlyddion yn cael ei ollwng i’r atmosffer.
Mae’n dda gwybod
Caiff oddeutu 73 miliwn o anadlyddion eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn* ;
Mae cael gwared ar anadlyddion drwy dirlenwi’n niweidiol i’r amgylchedd yn nhermau gwastraffu deunyddiau ac o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr gan fod y nwy gweddilliol o’r anadlyddion yn cael ei ollwng i’r atmosffer;
Pe byddai pob un sy’n defnyddio anadlyddion yn y Deyrnas Unedig yn dychwelyd pob un o’u hanadlyddion am un flwyddyn, gallai hyn arbed 512,330 o dunelli o CO2eq – yr un faint a char VW Golf yn cael ei yrru rownd y byd 88,606 o weithiau*.
* data ar ffeil gan GSK. Honiadau ailgylchu ac amgylcheddol y Deyrnas Unedig Gorffennaf 12.